Lleoliad:
Committee Room 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Iau, 17 Medi 2020
Amser:
13.30 -
15.02
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6507
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
David Rees AS (Cadeirydd) Alun Davies AS Huw Irranca-Davies AS Mandy Jones AS Dai Lloyd AS |
Tystion: |
Jeremy Miles AS, Y Gweinidog fydd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd Ed Sherriff, Llywodraeth Cymru Chris Warner, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Alun Davidson (Clerc) Rhys Morgan (Ail Glerc) Claire Fiddes (Dirprwy Glerc) Aled Evans (Cynghorydd Cyfreithiol) Nia Moss (Ymchwilydd) Rhun Davies (Ymchwilydd) Sara Moran (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Roedd Laura Anne Jones yn absennol oherwydd problemau technegol.
1.3 Datganodd Huw Irranca-Davies fuddiant fel Cadeirydd y Grŵp Cynghori ar Ewrop, Cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru a Chadeirydd y Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol.
1.4 Diolchodd y Cadeirydd i David Melding am ei waith ar y Pwyllgor a chroesawodd Laura Anne Jones i'r Pwyllgor yn ei le.
2 Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd
2.1 Atebodd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd gwestiynau gan yr Aelodau.
3 Papurau i’w nodi
3.0.1 Cafodd papurau 1 i 15 eu nodi.
3.1 Papur i'w nodi 1: Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ynghylch Cynllun Masnachu Allyriadau - 15 Gorffennaf 2020
3.2 Papur i'w nodi 2: Llythyr gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru at y Cadeirydd ynghylch lansio’r Papur Gwyn ar Farchnad Fewnol y DU a’r ymgynghoriad cysylltiedig - 16 Gorffennaf 2020.
3.3 Papur i'w nodi 3: Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol at y Cadeirydd a Chadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Fforwm y Gweinidogion ar Fasnach - 19 Gorffennaf 2020
3.4 Papur i'w nodi 4: Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd at y Cadeirydd ynghylch rhaglenni ariannu’r UE yng Nghymru a dyfodol cyllid ar gyfer buddsoddiadau rhanbarthol yng Nghymru - 20 Gorffennaf 2020.
3.19 Papur i'w nodi 5: Gohebiaeth gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru at y Cadeirydd ynghylch yr hyn sydd wedi digwydd ers y cyfarfod ar 30 Mehefin 2020 - 20 Gorffennaf 2020
3.6 Papur i'w nodi 6: Gohebiaeth gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ynghylch lansio’r Papur Gwyn ar farchnad fewnol y DU a’r ymgynghoriad cysylltiedig - 27 Gorffennaf 2020.
3.7 Papur i'w nodi 7: Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at yr Ysgrifennydd Busnes ac Ysgrifennydd Cymru ynghylch y Papur Gwyn ar farchnad fewnol y DU a’r ymgynghoriad cysylltiedig - 7 Awst 2020
3.8 Papur i'w nodi 8: Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd at y Cadeirydd a Chadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Papur Gwyn Llywodraeth y DU ar farchnad fewnol y DU - 14 Awst 2020
3.9 Papur i'w nodi 9: Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol at y Cadeirydd a Chadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Fforwm y Gweinidogion ar Fasnach - 14 Awst 2020
3.10Papur i'w nodi 10: Gohebiaeth gan y Prif Weinidog at y Cadeirydd ynghylch y Cytundeb rhwng y DU a Gwlad Pwyl - 24 Awst 2020
3.11Papur i'w nodi 11: Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd at y Cadeirydd ynghylch hawliau dinasyddion a fframweithiau cyffredin - 25 Awst 2020
3.12Papur i'w nodi 12: Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch cyfarfod Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau’r UE) - 27 Awst 2020
3.13Papur i'w nodi 13: Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol at y Cadeirydd ynghylch y trefniadau gwahanu rhwng y DU, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy - 28 Awst 2020
3.14Papur i'w nodi 14: Marchnad Sengl yr UE - papur gan Dr Kathryn Wright - 28 Awst 2020
3.15Papur i'w nodi 15: Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd at y Cadeirydd ynghylch y Cytundeb Rhyng-sefydliadol - Cyfarfodydd Gweinidogol ar yr Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol - 4 Medi 2020
4 Cynnig o dan Reolau Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd - trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.
6 Trafod cytundebau rhyngwladol
6.1 Gwnaeth yr Aelodau drafod a nodi’r cytundebau canlynol:
· Cytundeb rhwng Ffrainc, Gwlad Belg, yr Iseldiroedd a'r DU yn ategu eu Cytundeb o 1993 ar draffig rheilffyrdd rhwng Gwlad Belg a'r DU sy’n defnyddio Cysylltiad Sefydlog y Sianel
· Cytundeb rhwng yr Iseldiroedd a'r DU ynghylch rheolaethau ffiniau ar draffig rheilffyrdd sy’n defnyddio Cysylltiad Sefydlog y Sianel
· Cytundeb Arbennig rhwng Ffrainc, Gwlad Belg, yr Iseldiroedd a'r DU ynghylch materion diogelwch sy'n ymwneud â threnau sy'n defnyddio Cysylltiad Sefydlog y Sianel
7 Blaenraglen waith
7.1 Cytunodd yr aelodau i drafod yr eitem hon yn eu cyfarfod ar 24 Medi 2020.